Llanfair Waterdine
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Llanfair Waterdine[1] (Cymraeg: Llanfair Dyffryn Tefeidiad). Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Gorwedd ar ymyl Fforest Clun tua chwarter milltir o'r ffin â Cymru. Saif y pentref ar y B4355, 4 milltir i'r gogledd-orllewin o Dref-y-clawdd a nepell o bentref Cnwclas dros y ffin yng Nghymru. Yn hanesyddol bu'n rhan o Gymru am gyfnod hir ac mae'n gorwedd i'r gorllewin o Glawdd Offa. Yn ogystal mae afon Tefeidiad (Teme), sy'n dynodi'r ffin, wedi newid ei chwrs ers cyfnod y Deddfau Uno (1536).
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 214 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.3811°N 3.1179°W |
Cod SYG | E04011302, E04008513 |
Cod OS | SO240764 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 225.[2]
Ceir sawl cysylltiad Cymreig. Brodor o Lanfair Waterdine oedd Hywel Ap Mathew (m. 1581), un o Feirdd yr Uchelwyr a raddiodd yn Eisteddfod Gyntaf Caerwys (1523). Bu'r cyfrinydd a llenor Morgan Llwyd yn weithgar yno ar ddiwedd y 1630au gyda Walter Cradock.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 16 Ebrill 2021
- ↑ City Population; adalwyd 16 Ebrill 2021