Clawdd Offa
Clawdd a ffos sy'n rhedeg yn gyfochrog i'r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr yw Clawdd Offa. Mae'n ymestyn o aber Afon Dyfrdwy yn y gogledd i aber Afon Hafren yn y de am 150 milltir; dyma oedd y clawdd hwyaf neu hiraf a wnaed gan ddyn yng ngorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol.[1]
Math | gwrthglawdd, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys, Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.344°N 3.049°W |
Rheolir gan | English Heritage |
Perchnogaeth | English Heritage |
Mae'n debygol yr adeiladwyd ef yn ystod teyrnasiad Offa, Brenin Mersia yn yr wythfed ganrif. Yr adeg honno roedd y clawdd yn dynodi'r ffin rhwng teyrnas Powys a Mersia a hefyd, efallai, yn amddiffyn Mersia rhag ymosodiadau gan y Cymry. Nid oes sicrwydd mai Offa a gododd y clawdd; mae'n bosib fod rhan ohono yn gynharach.
Mae Clawdd Offa ar restrau Cadw ac English Heritage ac mae llwybr cyhoeddus pellter hir ar hyd y clawdd.
Mae "y tu draw i Glawdd Offa" yn cael ei ddefnyddio fel ffordd arall o ddweud "Lloegr".
Llyfryddiaeth
golygu- Cyril Fox, Offa's Dyke: a Field Survey of the Western Frontier Works of Mercia in the Seventh and Eighth Centuries AD (Llundain, 1955)
- Margaret Gelling (gol.), Offa's Dyke Reviewed (Rhydychen, 1983)
- David Hill a Margaret Worthington, Offa's Dyke: History and Guide (Stroud, 2003)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.