Llanfarthin
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Llanfarthin (Saesneg: St Martins).[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif ar ffin rhwng Lloegr a Chymru, gydag Afon Ceiriog ac Afon Dyfrdwy yn ffurfio’r ffin.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 3,097 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.9171°N 3.0128°W |
Cod SYG | E04011362, E04008432 |
Cod OS | SJ322362 |
Roedd hen blwyf Llanfarthin yn cynnwys y trefgorddau Ifton, Wiggington, Bronygarth a Weston Rhyn. Ond yn 1870 aeth Weston Rhyn a Bronygarth i'r plwyf newydd Weston Rhyn. Roedd eglwys y plwyf yn gysegredig i Sant Martin o Tours, Ffrainc.
Tan y 1960au, roedd Llanfarthin yn dref lofaol gyda'r pentrefwyr yn gweithio mewn pyllau glo lleol fel Ifton, Preesgwyn, Trehowell a Quinta neu ym Mharc Du a Bryncunallt (dros y ffin yn Y Waun). Caewyd pwll glo olaf yr ardal, Iffton, yn 1968. Mae Camlas Undeb Swydd Amwythig yn mynd trwy'r pentref.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 30 Ebrill 2021