Martin o Tours
Sant ac Esgob Tours oedd Sant Martin o Tours (Lladin: Sanctus Martinus Turonensis; 316 - 8 Tachwedd 397). Ganed ef yn Savaria, Pannonia (Szombathely yn Hwngai heddiw). Roedd ei dad yn swyddog uchel yn y fyddin Rufeinig; yn ddiweddarach symundwud ef i Ticinum, Gallia Cisalpins (Pavia yn yr Eidal heddiw), lle magwyd Martin. Ymunodd a'r fyddin, a thua 334 roedd yn gwasanaethu yn Ambianensium civitas neu Samarobriva, Gâl (Amiens yn Ffrainc heddiw). Yno, roedd gyda'i filwyr ger porth y ddinas pan welodd gardotyn heb fawr o ddillad. Torrodd Martin ei fantell yn ei hanner, a rhoi un hanner i'r cardotyn. Y noson honno, cafodd weledigaeth mai Iesu Grist oedd y cardotyn. Yn ddiweddarach, aeth i Tours, lle daeth yn ddisgybl i Hilarius o Poitiers, ac yna bu'n byw fel meudwy ar yr Isola d'Albenga. Daeth yn Esgob Tours yn 371. Yn y Canol Oesoedd, daeth ei fedd yn ninas Tours yn gyrchfan boblogaidd i bererinion. Arferai brenhinoedd y Ffranciaid gario mantell Sant Martin (cappa yn Llanin, bychanigyn cappilla) o'u blaenau mewn brwydrau. Yr arferiad yma yw tarddiad y geiriau capel a caplan. Yng Nghymru, rhoddodd ei enw i bentref Castellmartin yn Sir Benfro.
Martin o Tours | |
---|---|
Ganwyd | 316 Szombathely |
Bu farw | 8 Tachwedd 397 Candes-Saint-Martin |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, milwr, esgob Catholig |
Swydd | Esgob Tours |
Dydd gŵyl | 11 Tachwedd |