Llenyddiaeth ffuglen
Dosbarth eang o weithiau creadigol ysgrifenedig sydd yn dychmygu bydoedd, cymeriadau, a digwyddiadau ffuglennol, fel rheol yn draethiadol, yw llenyddiaeth ffuglen—yn gyffredinol, stori ysgrifenedig. Ffurfiau llenyddol cyffredin ffuglen yw'r nofel, y stori fer, y gerdd draethiadol, a'r ddrama. Yn hanesyddol, barddoniaeth oedd prif ffurf ffuglen, er enghraifft yr arwrgerdd a'r rhamant, ond bellach rhyddiaith ydy'r ffordd arferol o ysgrifennu stori.
Enghraifft o'r canlynol | sub-set of literature, dosbarth llenyddol, art genre by arts form, arbenigedd, maes astudiaeth |
---|---|
Math | ffuglen |
Y gwrthwyneb | llenyddiaeth ffeithiol |
Prif elfennau llenyddiaeth ffuglen yw'r plot, sef cynllun ac hynt y stori, y cefndir neu osodiad y stori, a'r cymeriadau sy'n byw, yn gweithredu ac yn ymateb i'w gilydd yn y byd hwnnw. Adroddir y stori drwy naratif, fel rheol o safbwynt y person cyntaf neu'r trydydd person ac yn yr amser gorffennol neu bresennol, gyda disgrifiadau o'r pethau, y bobl, a'r hyn sy'n digwydd, ac yn aml deialog rhwng y cymeriadau. Gall strwythur y plot a threfn y golygfeydd neu benodau gymryd sawl ffurf, ond fel arfer mae'r gyfres o ddigwyddiadau yn cynnwys dechreuad esboniadol, cynnydd yn y cyffro neu ddrama, uchafbwynt neu drobwynt y stori, a datrysiad. Fel rheol, gyrrir y stori yn ei blaen gan wrthdaro, hynny yw anghytundeb, brwydr, her neu densiwn, naill ai'n fewnol i feddwl neu gydwybod cymeriad unigol, neu wrthdrawiadau rhwng y cymeriadau neu yn erbyn rhyw rym neu bwysau allanol. Gydag hynt y stori, mae'r naratif yn traethu ac egluro personoliaethau, cymhellion, a anghydfodau'r cymeriadau, ac o bosib eu meddyliau, a gwelir cymeriadaeth yn datblygu o ganlyniad i ddigwyddiadau. Gallai'r awdur gynnwys sawl thema yn y stori er mwyn mynegi syniadau neu gyfleu neges i'r darllenydd. Ceir amrywiaeth eang o ddyfeisiadau adrodd stori ac arddulliau llenyddol, ac mae nifer o awdurion wedi arbrofi gyda dulliau anghonfensiynol o ysgrifennu ffuglen.
Gall ffuglen ymwneud ag unrhyw beth, person, lle, amser, neu bwnc dan haul. Rhennir llenyddiaeth ffuglen yn aml yn ddau gategori: ffuglen genre, a ffuglen di-genre, a elwir hefyd ffuglen lenyddol, ffuglen ddifrif, neu uchel lenyddiaeth. Ysgrifennir ffuglen genre mewn amrywiaeth enfawr o arddulliau a themâu, gan gynnwys ffuglen hanesyddol a osodir mewn amseroedd a lleoedd go iawn, yn aml gyda chymeriadau neu ddigwyddiadau sy'n seiliedig ar hanes go iawn; straeon cwbl ffuglennol a osodir mewn amgylchiadau realistig ein byd a'n cymdeithas, er enghraifft ffuglen drosedd a dirgelwch, rhamant, a chyffro; a'r amryw genres o ffuglen ddamcaniaethol sy'n ymwneud â bydoedd cwbl dychmygol a sefyllfaoedd y tu hwnt i realiti, megis ffantasi, gwyddonias, arswyd, dystopia, ac hanes amgen.
Gellir dosbarthu'r rhan fwyaf o ryddiaith i ddau fath, llenyddiaeth ffuglen a llenyddiaeth ffeithiol. Yn ogystal â rhyddiaith ffuglen—y nofel, y stori fer, a straeon o hydoedd eraill—mae llenyddiaeth ffuglen yn cynnwys barddoniaeth draethiadol a'r ddrama ysgrifenedig. Mae rhai gweithiau ffuglen, yn enwedig ffuglen hanesyddol, yn seiliedig ar gymeriadau a digwyddiadau go iawn ac yn dychmygu deialog a golygfeydd i greu portread ffuglennol. Ceir hefyd gweithiau sy'n cyfuno neu'n pontio'r ddau fath o lenyddiaeth, er enghraifft lled-hunangofiant neu nofel ffeithiol.
Darllen pellach
golygu- Gregory Currie, The Nature of Fiction (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1990).
- Richard Maxwell a Katie Trumpener (goln), The Cambridge Companion to Fiction in the Romantic Period (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2008).