Dystopia

cymdeithas sy'n gwbwl ar chwal

Dystopia neu amharadwys yw cymuned neu gymdeithas sy'n annymunol neu'n frawychus..[1][2] Daw'r gair 'dystopia' o'r Groeg δυσ- "drwg" and τόπος "lle"; gall hefyd gael ei alw yn cacotopia[3] neu wrth-iwtopia.

Big Brother, yr unben tadol (er efallai'n ddychmygol) ym myd dystopaidd Nineteen Eighty-Four gan George Orwell

Mae cymdeithadau dystopaidd yn ymddangos mewn nifer o weithiau celf, yn arbennig mewn straeon sy'n cael eu gosod yn y dyfodol. Enghraifft adnabyddus yn y Gymraeg yw Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Ellis. Mae enghreifftiau enwog yn Saesneg yn cynnwys Nineteen Eighty-Four gan George Orwell a Brave New World gan Aldous Huxley. Mae dystopias yn aml yn cael eu nodweddu gan ddad-ddyneiddio,[1] llywodraethau sy'n teyrnasu drwy ormes, trychinebau naturiol,[2] a nodweddion eraill sy'n cael eu cysylltu â ddad-feiliad cataclysmig mewn cymdeithas. Mae cymdeithasau dystopaidd yn aml yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at gymdeithas, yr amgylchedd, gwleidyddiaeth, economeg, crefydd, seicoleg, moeseg, gwyddoniaeth neu dechnoleg. Mae rhai awduron yn defnyddio'r term i gyfeirio at gymdeithasau'r presennol, rhai sydd fel arfer yn, neu wedi bod yn, wladwriaethau neu gymdeithasau totalitaraidd.

Mae rhai ysgolheigion, fel Gregory Claeys a Lyman Tower Sargent, yn nodi gwahaniaethau penodol rhwng geiriau sy'n cael eu hystyried yn gyfystyr â dystopia. Er enghraifft, me Claeys a Sargent yn diffinio dystopiâu llenyddol fel cymdeithasau dychmygol sy'n sylweddol waeth na'r gymdeithas mae'r awdur yn perthyn iddi, tra bod gwrth-iwtopiâu yn gweithredu fel beirniadaeth o ymdrechion i weithredu gwahanol gysyniadau o iwtopia.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Definition of "dystopia"". Merriam-Webster. Merriam-Webster, Inc. 2012.
  2. 2.0 2.1 "Definition of "dystopia"". Oxford Dictionaries. Oxford University Press. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-18. Cyrchwyd 2019-01-07.
  3. Cacotopia (from κακός kakos "bad") was the term used by Jeremy Bentham in his 19th century works ("Dystopia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 March 2006. Cyrchwyd 2006-03-19. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "The Utopia Reader".