Pridd neu waddod rhydd yw Llifwaddod (weithiau 'llifwadiwm'; Saesneg: Alluvium - o'r Lladin alluere, "i olchi yn erbyn"). Nid yw wedi'i gywasgu'n graig, ond mae wedi'i erydu a'i ailffurfio gan ddŵr mewn rhyw ffurf, a'i ailddosbarthu ar dir. Fel arfer mae llifwaddod yn cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys gronynnau mân a chlai a gronynnau mwy o dywod a graean. Pan gaiff y deunydd llifwaddodol hwn ei adneuo neu ei selio i mewn i uned litholegol, neu ei lithifo, fe'i gelwir yn "flaendal llifwaddodol".[1][2][3]

Llifwaddod
Mathgwaddod Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ni ddefnyddir y term "llifwadiad" fel arfer mewn sefyllfaoedd lle y gellir priodoli'r gwaddod yn glir i broses ddaearegol arall a ddisgrifir yn dda. Mae hyn yn cynnwys gwaddodion a geir mewn llynoedd, afonydd neu neu waddodion rhewifol. Fel arfer ni chyfeirir ychwaith at waddodion sy'n cael eu ffurfio neu eu hadneuo mewn ffrwd neu nant ar ochr mynydd neu afon fel llifwadwraeth.

Mae'r rhan fwyaf o lifwaddod yn perthyn i'r Chwarternaidd a chyfeirir ato'n aml fel "gorchudd" gan ei fod yn gorchuddio, ac yn cuddio'r creigiau oddi tanynt. Ceir hefyd lifwaddod o'r oes Pliocen e.e. mewn rhannau o Idaho. Ceir hefyd lifwaddod o oes y Mïosen e.e. yn Nyffryn San Joaquin, California.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Chisholm, 1911
  2. Glossary of Geological Terms. Geotech.org. Retrieved on 2012-02-12.
  3. Geology Dictionary – Alluvial, Aquiclude, Arkose. Geology.Com. Adalwyd 2012-02-12.