Llinell Wallace
Mae Llinell Wallace yn linell sy'n gwahanu dau ranbarth bioddaearyddol, Asia ac Awstralasia. I'r gorllewin o'r llinell ceir rhywogaethau o fywyd gwyllt sy'n perthyn i ranbarth Asia, tra i'r dwyrain ceir rhywogaethau sy'n perthyn i fywyd gwyllt Awstralasia. Enwir y llinell ar ôl y Cymro Alfred Russel Wallace, a nododd y gwahaniaeth yn ystod ei deithiau trwy ynysoedd de-ddwyrain Asia yn y 19g.
Math | Ffin Bio-Ddaearyddol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alfred Russel Wallace |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Indonesia |
Mae'r llinell yn rhedeg rhwng ynysoedd Indonesia, yn gyntaf rhwng Borneo yn y gorllewin a Sulawesi yn y dwyrain, yna rhwng Bali yn y gorllewin a Lombok yn y dwyrain. Nid yw Culfor Lombok, sy'n gwahanu Bali a Lombok, ond 35 km o led, ond mae'n ddigon i weld cryn wahaniaeth yn y bywyd gwyllt, hyd yn oed mewn adar, nad yw rhai rhywogaethau ohonynt yn barod i groesi'r môr, hyd yn oed gulfor.