Llinos werdd

(Ailgyfeiriad o Llinos Werdd)
Llinos werdd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Carduelis
Rhywogaeth: C. chloris
Enw deuenwol
Chloris chloris
(Linnaeus, 1758)
Llinos Werdd
Cuculus canorus bangsi + Carduelis chloris

Mae'r Llinos werdd (Chloriuelis chloris) yn perthyn i'r teulu Fringillidae, llinosiaid. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, de-orllewin Asia a gogledd Affrica.

Nid yw'r llinos werdd yn aderyn mudol fel rheol, er bod adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n nythu ar ymylon coedwigoedd, mewn gwrychoedd ac weithiau mewn gerddi, gan ddodwy 3-8 wy. Tu allan i'r tymor nythu maent weithiau yn ymgasglu yn heidiau mawr, ambell dro yn gymysg a llinosiaid eraill. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed hefyd.

Mae'r llinos werdd yn 14–16 cm o hyd gyda plu gwyrdd yn bennaf, gyda melyn ar yr adenydd a'r gynffon; mae'r ceiliog yn fwy gwyrdd na'r iâr. Mae'r pig yn drwchus. Ambell dro mae'r aderyn yma'n cael ei gymysgu a'r Pila Gwyrdd sydd hefyd â melyn ar yr adenydd ond sydd ychydig yn llai ac yn llai gwyrdd.