Llion Iwan
Newyddiadurwr, cynhyrchydd dogfen ac awdur o Gymru yw Llion Iwan (ganwyd Hydref 1969). Mae'n gweithio trwy gyfrwng Cymraeg a Saesneg. .[1]
Llion Iwan | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1969 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Tad | Dafydd Iwan ![]() |
Bywyd cynnar ac addysg Golygu
Ganwyd Llion yng Nghaerdydd yn fab i'r gwleidydd a'r canwr Dafydd Iwan. Aeth i Ysgol Waunfawr ac Ysgol Syr Hugh Owen a graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.[2]
Gyrfa Golygu
Bu’n gweithio i’r North Wales Weekly News cyn ymuno â’r BBC lle bu’n gweithio’n amrywiol fel newyddiadurwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr.
Bu'n darlithio mewn newyddiaduraeth a ffilm ddogfen ym Mhrifysgol Bangor.
O 2012-2016 roedd yn gomisiynydd cynnwys ffeithiol ar gyfer S4C, ac roedd yn Bennaeth Dosbarthu Cynnwys tan 2018. Yn 2019 daeth yn Gyfarwyddwr Cynnwys gyda Cwmni Da, cwmni cynhyrchu annibynnol wedi'i leoli yng Nghaernarfon.
Bywyd personol Golygu
Mae'n byw ym mhentref Caeathro ger Caernarfon.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Llion Iwan. Gwasg Gomer. Adalwyd ar 1 Ebrill 2020.
- ↑ Cwmni Da - Amdanon Ni. Cwmni Da. Adalwyd ar 1 Ebrill 2020.