Caeathro

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Waunfawr, Gwynedd, Cymru, yw Caeathro[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Arfon ar briffordd yr A4085 rhwng Caernarfon a Waunfawr, tua 1.17 milltir o Gaernarfon a 0.72 milltir o Waunfawr. Mae tafarn, gorsaf betrol a maes carafanau yno.

Caeathro
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.12°N 4.24°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH500616 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Ganwyd y nofelydd Emily Huws yng Nghaeathro.

Canol Caeathro

Geirdarddiad golygu

Yn 1558 y ceir y cyfeiriad cynharaf at enw Caeathro ac yn ôl Melville Richards, roedd yma athro barddol o'r enw Kay (Cai?), yn byw yma. Mae'n fwy tebygol mai athro a oedd yn dysgu darllen ac ysgrifennu i bobl yr ardal ydoedd. Ceir cyfeiriad at rai o'i ddisgynyddion ym mhlwyf Llanddeiniolen yn y 15g, ac yn eu plith yr oedd Tangwystl ferch Ieuan ap Llywelyn ap Robyn ap Madog ab yr Athro. Daw’r cyfeiriad at Dangwystl o’r flwyddyn 1430. Wrth olrhain ei llinach gellir amcangyfrif y byddai’r Athro ei hun yn fyw yn nechrau’r 14g. Ceir cyfeiriad arall at Gwenllian ferch yr Athro ('mergh Erathro') a ymddangosodd yn y llys yng Nghaernarfon yn 1364, ac Ieuan ap Rathro yn 1370.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 18 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. 'Enwau lleoedd Dyffryn Peris – Caeathro a Cwm-y-glo' gan Glenda Carr; cyhoeddwyd yn Eco'r Wyddfa; adalwyd 2 Ebrill 2024.