Lloc

pentref yn Sir y Fflint

Pentref yng nghymuned Chwitffordd, Sir y Fflint, Cymru, yw Lloc.[1][2] I'r de, gwelir Bryniau Clwyd ac i'r gorllewin, ceir y ffin rhwng Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

Lloc
Tafarn y Graig, Lloc
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr212.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.281°N 3.29°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ140768 Edit this on Wikidata
Cod postCH8 8RG Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DURob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Tarddiad enw'r pentref yw "corlan" i gadw anifeiliaid. Yn y pentref mae capel Sïon, sy'n adnabyddus am gynnal gwasanaeth y Plygain, ar fore dydd Nadolig. Mae'r capel yn perthyn i enwad y Wesleiaid ac fe'i codwyd ym 1810 a'i addasu ym 1829. Caewyd y capel yn 2021.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU