Llongddrylliedigion Tonga

Chwe bachgen yn eu harddegau oedd llongddrylliedigion Tonga a gawsant eu llongddryllio ar ynys anghyfannedd ʻAta, ar ben deheuol ynysfor Tonga, ym Mehefin 1965, a buont yn byw yno am 15 mis. Ffoes y bechgyn o'u hysgol breswyl ar Tongatapu, prif ynys Tonga, a chipiasant gwch i ddianc. Wedi i storm ddryllio'r cwch, cawsant eu dwyn gyda'r llif i lannau ʻAta, ac yno llwyddasant i fyw gyda'i gilydd yn iach. Tybiwyd i'r bechgyn farw, ond ym Medi 1966 cawsant eu canfod a'u hachub gan Peter Warner, cimychwr o Awstralia.

Llongddrylliedigion Tonga
Llun loeren o ynys ʻAta.
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o bobl, adventure, castaway Edit this on Wikidata
DechreuwydMehefin 1965 Edit this on Wikidata
Daeth i benMedi 1966 Edit this on Wikidata
GwladwriaethTonga Edit this on Wikidata

Wedi iddynt ddychwelyd i Tongatapu, cafodd y bechgyn rhoi yn y ddalfa am ladrata'r cwch. Llwyddodd Warner i berswadio'r perchennog i ollwng y cyhuddiadau drwy dalu iawndal iddo am y cwch.

Câi hanes llongddrylliedigion Tonga ei gyferbynnu'n aml â stori Lord of the Flies (1954) gan y nofelydd William Golding.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "The true story of six Tongan teenage castaways in 1965", Radio New Zealand (15 Mai 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Mehefin 2024.