Nofelydd o Gymru yw Lloyd Jones (ganwyd 1951).

Lloyd Jones
Ganwyd14 Gorffennaf 1951 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Lloyd Jones ym Mryn Clochydd, Gwytherin, ger Llanrwst. Ar hyn o bryd, mae'n byw ger Llanfairfechan ac mae wedi gweithio am gyfnod ar fferm, fel golygydd papur newydd, darlithydd, a nyrs mencap.[1]

Cyhoeddwyd ei ddwy nofel gyntaf gan wasg Seren, y cyntaf oedd Mr Vogel (2004), enillydd Gwobr McKitterick, a seliwyd yn rhannol ar daith cerdded Jones o amgylch Cymru, taith 1,000 milltir o hyd ac ef oedd y Cymro cyntaf i'w gwblhau. Ysbrydolwyd ei ail lyfr Mr Cassini (2006), yn rhannol ar ei deithiau cerdded ar draws Gymru mewn amryw o wahanol gyfeiriadau; enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2007.

Casgliad o straeon byrion a thraethodau oedd ei drydydd llyfr, My First Colouring Book, a gyhoeddwyd yn Hydref 2008. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf yn yr iaith Gymraeg, Y Dŵr, gan Y Lolfa ym Mehefin 2009.[2]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Authors. Seren.
  2.  'Surreal' novel wins book award. BBC (9 Gorffennaf 2007).

Dolenni allanol

golygu