Gwytherin, Conwy

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Pentref yng nghymuned Llangernyw, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Gwytherin.[1][2] Saif ar y ffordd B5384 rhwng Pandy Tudur a Llansannan, i'r gogledd o Fynydd Hiraethog ac i'r de o bentref Llangernyw. Mae Afon Cledwen yn llifo heibio'r pentref.

Gwytherin, Conwy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.139°N 3.681°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH876614 Edit this on Wikidata
Cod postLL22 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Yn ôl traddodiad sefydlwyd yr eglwys gan Sant Gwytherin yn y 6g. Yn ôl traddodiad arall, treuliodd y santes Gwenffrewi gyfnod yma fel meudwy, a chladdwyd hi yma. Yn ddiweddarach symudwyd ei gweddillion i Abaty'r Benedictiaid yn Amwythig. Hyd at y 18g roedd cist bren yn yr eglwys oedd, yn ôl y sôn, unwaith wedi cynnwys gweddillion Gwenffrewi. Mae'r rhan fwyaf o'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 9eg ganrif, ond mae cerrig beddau o'r 14g tu mewn.

Ym mynwent yr eglwys mae pedair carreg hynafol wedi eu gosod mewn rhes o'r dwyrain i'r gorllewin. Ar un ohonynt ceir arysgrif mewn Lladin; "VINNEMAGLI FILI / SENEMAGLI" ("[Carreg] Vinnemaglus fab Senemaglus"), Credir fod yr arysgrif yn dyddio i'r 5ed neu'r 6g, ond cred rhai fod y cerrig eu hunain yn llawer hŷn.

Gwytherin: canol y pentref

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021