Banc adwerth yn y Deyrnas Unedig yw Lloyds TSB. Cafodd ei sefydlu ym 1995 pan unwyd Banc Lloyds, a sefydlwyd ym 1765 ac sy'n cael ei ystyried yn gyffredinol fel un o'r pedwar banc clirio mawr (y "Big Four"), â'r Grŵp TSB sy'n tarddu o 1810. Mae gan Lloyds TSB rwydwaith helaeth o ganghennau a pheiriannau arian parod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n cynnig gwasanaethau bancio ffôn ac ar-lein 24-awr. Heddiw mae ganddo 16 miliwn o gyfrifon cwsmeiriaid personol a chwmnïau bach. Yn yr Alban, mae'r banc yn gweithredu fel Lloyds TSB Scotland plc. Yn dilyn caffaeliaid HBOS yn 2008, ail-enwyd y grŵp rhiant Lloyds TSB yn Lloyds Banking Group.

Lloyds TSB
Math
busnes
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig cyhoeddus
Diwydiantgwasanaethau ariannol
Sefydlwyd1995
PencadlysLlundain
Cynnyrchgwasanaethau ariannol
PerchnogionLloyds Banking Group
Gwefanhttps://lloydsbank.com/, https://branches.lloydsbank.com/ Edit this on Wikidata
Eginyn erthygl sydd uchod am gwmni Prydeinig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.