Llwon Strasbwrg
Cytundeb milwrol a wnaed ar 14 Chwefror 842 oedd Llwon Strasbwrg (Lladin: Sacramenta Argentariae). Tyngodd Siarl Foel a Louis yr Almaenwr llwon yn erbyn eu brawd hŷn Lothair, etifedd dynodedig Louis Dduwiol, a oedd yn olynydd i Siarlymaen.[1] Flwyddyn yn ddiweddarach byddai Cytundeb Verdun yn cael ei arwyddo gan y tri brawd, gyda'r canlyniad y byddai yr Ymerodraeth Garolingaidd yn cael ei rhannu rhwngddynt.
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb, gwaith ysgrifenedig, digwyddiad hanesyddol, linguistic written record |
---|---|
Awdur | Nithard |
Iaith | Rhine Franconian, Gallo-Romance, Lladin yr Oesoedd Canol |
Dechrau/Sefydlu | 14 Chwefror 842 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tyngodd Louis yr Almaenwr ei lw mewn iaith Romáwns er mwyn i filwyr Siarl Foel ei ddeall. Yn yr un modd, tyngodd Siarl mewn iaith Germaneg er mwyn i filwyr Louis ei ddeall yntau. Mae'r testun Romáwns yn arbennig o bwysig i ieithyddiaeth hanesyddol, gan mai dyma'r ddogfen hynaf sy'n bodoli yn Ffrainc a ysgrifennwyd mewn ffurf gynnar o Ffrengig.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geneviève Bührer-Thierry et Charles Mériaux, La France avant la France, Gallimard, 3 Medi 2019, 770 ISBN 978-2-07-279888-7 (Ffrangeg)
- ↑ Philippe Walter, Naissances de la littérature française, p. 12, éd. Presses Universitaires du Mirail, 1998. (Ffrangeg)