Llydawyr

cenedl sy'n frodorol o Lydaw
(Ailgyfeiriad o Llydawiaid)

Mae'r Llydawyr yn grŵp ethnig Celtaidd sy'n gysylltiedig â Llydaw a'r Llydaweg.

Yn hanesyddol ac yn ieithyddol mae yna gysylltiadau cryf rhwng y Llydawyr a'r Cymry. Galiaid oedd trigolion yr ardal yn y cyfnod Rhufeinig ac Armorica neu Aremorica oedd enw'r ardal a chyfeiriai'r Rhufeiniaid at y trigolion fel yr Aremorici ("y rhai sy'n byw i'r dwyrain o'r môr"), pobl Geltaidd Galeg eu hiaith.

Yn ystod y cyfnod rhwng tua diwedd y 4g a'r 6g, ymudodd nifer o Frythoniaid o ardaloedd yn yr hyn sy'n dde Lloegr erbyn heddiw dros y môr i Armorica. Daethant â'u hiaith gyda nhw, sy'n deillio o'r Frythoneg ac yn perthyn yn agos i'r Gymraeg a'r Gernyweg.

O'r cyfnod cynnar hwnnw cawn draddodiadau am y seintiau Celtaidd cynnar yn teithio'n rheolaidd rhwng Cymru, Cernyw a Llydaw.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.