Llyfr Du Basing
Llawysgrif Gymreig a ysgrifennwyd yn yr Oesoedd Canol Diweddar yw Llyfr Du Basing.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif, gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Awdur | Gutun Owain ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Cysylltir gyda | Peniarth 20 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. 1460 ![]() |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
![]() |
Mae'n dra thebygol i'r llawysgrif gael ei hysgrifennu yn sgriptoriwm Abaty Dinas Basing, ger Treffynnon yn Sir y Fflint. Ceir dwy haen yn y llawysgrif. Mae'r hynaf yn dyddio i'r 14g ac mae'r ail ran yn llaw y bardd Gutyn Owain (fl. 1450-1498). Efallai bod Gutyn wedi ysgrifennu ei gyfraniad i'r llawysgrif pan fu ei gyfaill Thomas Pennant (tua 1480 - 1515/1520) yn abad ar yr abaty.
Mae Llyfr Du Basing yn cynnwys testunau o Ystoria Dared, Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, Brut Tysilio a Brut y Saeson (hyd 1461). Mae'r ddau destun olaf yn llaw Gutyn Owain.
Diogelir Llyfr Du Basing yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (cyfeirnod llawysgrif: NLW 7006).