William Morgan (esgob)

esgob a chyfieithydd
(Ailgyfeiriad o Esgob William Morgan)

Yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604) oedd y gŵr a gyfieithodd y Beibl yn gyflawn i'r Gymraeg am y tro cyntaf. Cyhoeddwyd ei Feibl ym 1588. Credir yn gyffredinol mai hynny gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi, a hynny am nad oedd gan yr iaith unrhyw statws na defnydd swyddogol o gwbl fel arall am ganrifoedd dan y drefn a osodwyd ar Gymru gyda'r "Deddfau Uno".

William Morgan
Ganwyd1547 Edit this on Wikidata
Tŷ Mawr Wybrnant Edit this on Wikidata
Bu farw10 Medi 1604 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Diwinyddiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, offeiriad, cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llandaf, Esgob Llanelwy Edit this on Wikidata
Tudalen deitl Beibl William Morgan

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd William Morgan yn Nhŷ Mawr y Wybrnant, ger Penmachno, yn fab i denant ar ystad Gwydir. Mae'n debyg i dirfeddianwr yr ystad, Morys Wyn, ddarparu addysg ar gyfer rhai o feibion ei denantiaid trwy ei gaplan personol. Ymddengys i'r bardd Edmwnd Prys fod yn gyd-fyfyriwr yr un pryd a William Morgan. Aeth y ddau wedyn i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt.

Yng Nghaergrawnt fe astudiodd athroniaeth, mathemateg a Groeg gan raddio'n faglor yn y celfyddydau ym 1568 ac yn feistr ym 1571. Treuliodd William Morgan dair blynedd ar ddeg yn y brifysgol i gyd, gan feistroli Lladin, Hebraeg, Aramaeg, Ffrangeg ac Almaeneg yn ogystal â gweithiau Tadau'r Eglwys a diwinyddion Protestannaidd y cyfnod. Graddiodd yn faglor mewn diwinyddiaeth ym 1578 ac yn ddoethur ym 1583.

Clerigwr

golygu

Cafodd William Morgan ei ordeinio'n glerigwr yn Eglwys Loegr ym 1568 gan Esgob Ely. Apwyntiwyd ef yn ficer Llanbadarn Fawr ym 1572, yna'r Trallwng ym 1575 a Llanrhaeadr-ym-Mochnant ynghyd â Llanarmon Mynydd Mawr ym 1578. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef hefyd yn Bregethwr y Brifysgol yng Nghaergrawnt. Yn ystod ei gyfnod yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant priododd â Catherine ferch George ac yno hefyd y gwnaeth llawer o'i waith cyfieithu, gan weithio yno hyd at ei ddyrchafiad yn Esgob Llandaf ym 1595. Ym 1601 daeth yn Esgob Llanelwy lle y bu hyd at ei farwolaeth ym 1604.

Cyfieithu'r Beibl

golygu

Roedd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd wedi bod ar gael ers 1567, ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan. Erbyn 1587 roedd wedi gorffen cyfieithu'r Hen Destament, y Testament Newydd a'r Apocrypha, ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg ym 1588.

Canmolwyd y cyfieithiad gan lenorion cyfoes, yn cynnwys Siôn Tudur, Siôn Dafydd Rhys, Ieuan Tew a Morris Kyffin.

Cerflun ar fur Eglwys Gadeiriol Llandaf

Llyfryddiaeth

golygu

Ceir bywgraffiadau o William Morgan gan Charles Ashton (1891), W. Hughes (1891), T. Evan Jacob, G. J. Roberts (1955) ac R. T. Edwards (1968).

Astudiaethau:

  • Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)
  • Prys Morgan, Beibl i Gymru (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988)

Dolenni allanol

golygu