Richard Parry (esgob)
Roedd Richard Parry (1560 - 26 Medi 1623) yn Esgob Llanelwy. Fe'i cofir yn bennaf am iddo gyhoeddi fersiwn diwygiedig o gyfieithiad Cymraeg yr Esgob William Morgan o'r Beibl.
Richard Parry | |
---|---|
Ganwyd | 1560 |
Bu farw | 26 Medi 1623 Diserth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl |
Magwraeth ac addysg
golyguGaned Richard Parry yn 1560 yn fab i John ap Hari, Pwllhalog, Cwm, Sir y Fflint a'i wraig Elen ferch Dafydd ap John, o Llanfair Dyffryn Clwyd, ger Rhuthun, Sir Ddinbych.
Aeth i Ysgol Westminster ac yna i Eglwys Crist, Rhydychen, un o golegau Prifysgol Rhydychen; graddiodd B.A. ar 5 Chwefror 1584. Tra oedd yn bennaeth ysgol Rhuthun, graddiodd yn M.A. ar 4 Mehefin 1586 ac yn ddiweddarach ar 4 Mawrth 1594, yn B.D.[1]
Gwaith
golyguDaeth yn brifathro Ysgol Rhuthun, ac yn 1599 yn Ddeon Bangor ar 5 Ebrill 1584. Cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy ar 30 Rhagfyr 1604. Priododd Gwen ferch John ap Rhys Wyn tua 1598, a chawsant bedwar mab a saith merch.
Cyhoeddodd Parry fersiynau diwygiedig o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1620 a 1621. Er mai ei enw ef oedd wrth y rhain, credir mai ei frawd-yng-nghyfraith John Davies, Mallwyd a wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith.
Bu farw yn Niserth ar 26 Medi 1623.
Llyfryddiaeth
golygu- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 30 Rhagfyr 2016.