Llyfr Vercelli
Llawysgrif Hen Saesneg yw Llyfr Vercelli (Saesneg: Vercelli Book, Lladin: Codex Vercellensis) a ysgrifennwyd yn niwedd y 10g. Mae'n ffynhonnell bwysig o farddoniaeth Hen Saesneg. Mae'n cynnwys y gerdd hagiograffaidd Andreas, y ferthyroleg fer The Fates of the Apostles (a briodolir i Cynewulf), y gerdd homiletig The Soul's Address to the Body, y gerdd ddefosiynol The Dream of the Rood, y gerdd hagiograffaidd Elene (a briodolir hefyd i Cynewulf), a dernyn o gerdd homiletig arall, yn ogystal â 23 o homilïau rhyddieithol, a buchedd ryddieithiol Sant Guthlac (a elwir Guthlac Vercelli i'w gwahaniaethu o fuchedd fydryddol Guthlac yn Llyfr Caerwysg).
Canfuwyd y llawysgrif yn llyfrgell Eglwys Gadeiriol Vercelli, yng ngogledd-orllewin yr Eidal, ym 1822. Mae'n debyg iddi gael ei chludo i'r Eidal gan bererin Eingl-Sacsonaidd ar ei ffordd i Rufain.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Vercelli Book. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2022.