Cofrestr o ferthyron Cristnogol yw merthyroleg, merthyriadur, merthyrdraeth, neu ferthyroliaeth. Gall fod ar ffurf seml, sef rhestr o enwau a'u dyddiadau marw, neu yn ferthyroleg hanesyddol sydd yn cynnwys hanes eu bywydau a'u dioddefiadau er mwyn crefydd. Gwahaniaethir hefyd rhwng merthyrolegau lleol, sydd yn darparu rhestr o ddygwyliau ar gyfer eglwys neu blwyf benodol, a merthyrolegau cyffredinol. Yn Eglwysi'r Dwyrain, mae'r synacsariwm—casgliad o fucheddau'r saint—yn cyfateb i'r ferthyroleg.

Merthyroleg
Wynebddalen Hanes y Merthyron (1813) gan Thomas Jones, Dinbych.
Enghraifft o'r canlynolGenre Edit this on Wikidata
Mathliturgical book Edit this on Wikidata

Mae sawl merthyroleg leol yn dyddio o oes yr Eglwys Fore, gan gynnwys y Depositio martyrum a'r Depositio episcoporum yn y llawysgrif Rufeinig a elwir "Cronograffeg y flwyddyn 354"; y calendr ar gyfer yr Eglwys Gothaidd a gynhwysir ym Meibl Ulfila; calendr Carthago a ganfuwyd gan Jean Mabillon yn yr 17g; a chalendr dygwyliau a noswyliau Eglwys Tours, sy'n dyddio'n ôl i gyfnod yr Esgob Perpetuus yn niwedd y 5g. Merthyroleg Eusebius o Gesarea oedd y mwyaf ei glod yn yr Eglwys Fore; honnir iddi gael ei gyfieithu i'r Lladin gan Sant Sierôm, ond mae yn awr wedi mynd ar goll. O'r merthyrolegau hynafol, yr esiampl bwysicaf i oroesi ydy'r un o ddiwedd y 6g a briodolid ar gam i Sierôm. Dyma gyfuniad o ferthyroleg gyffredinol o Eglwysi'r Dwyrain, merthyrolegau lleol o Rufain a Gâl, merthyrolegau cyffredinol o'r Eidal a Gogledd Affrica. Merthyroleg syml ydyw ar y cyfan, ac eithrio benthyciadau o ddioddefiadau'r ferthyron yn y Testament Newydd. Allan o'r hon y gwnaed merthyroleg fer Rufeinig, ac o'r un honno drachefn y ffurfiwyd merthyroleg yr Hybarch Beda o Northymbria, ac ati gwnaed ychwanegiadau wedi hynny gan Florus, is-ddiacon yr eglwys yn Lyon. Mae'r un a briodolir i Beda, yn yr 8g, o awdurdod lled amheus, gan ei fod yn cynnwys enwau amryw nad oeddynt yn fyw hyd ar ôl ei amser ef.

Yr oedd y 9g yn dra ffrwythlon mewn merthyrolegau. Dyna'r pryd ymddangosodd un Florus, a broffesodd ei amcan i lenwi i fyny'r diffygion oedd yng ngwaith Beda tua 830. Dilynwyd ef gan ferthyroleg Wandelbert—mynach oedd yn preswylio yn Abaty Prüm yn esgobaeth Trier—wedi ei hysgrifennu ar gân, oddeutu 848, a dilynwyd hon drachefn gan Usuard, mynach o Abaty Saint-Germain-des-Prés ym Mharis, a ysgrifennwyd ar gais Siarl Foel yn 875. Mae merthyroleg Rabanus Maurus o Mainz, a ysgrifennwyd oddeutu 845, yn rhagori ar yr eiddo Beda a Florus. Casglwyd merthyroleg Ado, Archesgob Vienne, o ysgrifeniadau Rhufeinig yn 858. Ysgrifennwyd un Notker Atal Dweud—mynach o Abaty St. Gallen—tua 896, ac un Wolfhard tua 896. Nid yw merthyroleg Nevelon, mynach o Corbie, a ysgrifennwyd tua 1089, yn ddim amgen na thalfyriad o'r eiddo Ado. Crybwyllir gan Athanasius Kircher am ferthyroleg Goptaidd, a gadwyd gan y Maroniaid yn Rhufain.

Byddai gwaith Usuard yn sail i'r Ferthyroleg Rufeinig (Lladin: Martyrologium Romanum), a gyhoeddwyd yn Rhufain ym 1583. Yn sgil y drydydd argraffiad (1584) o'r honno, fe'i gorfodwyd gan y Pab Grigor XIII ar yr holl Eglwys Gatholig. Cyhoeddodd Cesare Baronio argraffiad o'r Ferthyroleg Rufeinig gyda nodiadau ym 1586, ffynhonnell bwysig mewn hanes eglwysig er gwaethaf camgymeriadau ac hepgoriadau'r golygydd.

Ymhlith y merthyrolegau Protestannaidd mae hanesion dioddefiadau'r Diwygwyr gan John Foxe (Actes and Monuments, 1563), Samuel Clarke (1651), a Thomas Bray (A Martyrology, or History of the Papal Usurpation) yn Saesneg, a chan Thomas Jones, Dinbych (Hanes Diwygwyr, Merthyron, a Chyffeswyr Eglwys Loegr, 1813) yn Gymraeg.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.