Cynewulf
Bardd yn yr Hen Saesneg, iaith yr Eingl-Sacsoniaid, a flodeuai yn yr 8g neu'r 9g oedd Cynewulf. Priodolir iddo bedair cerdd a gofnodwyd mewn llawysgrifau yn niwedd y 10g: Elene a The Fates of the Apostles yn Llyfr Vercelli, a Christ II a Juliana yn Llyfr Caerwysg.
Cynewulf | |
---|---|
Ganwyd | 9 g Lloegr |
Bu farw | 9 g Lloegr |
Dinasyddiaeth | Mersia |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Yn hanesyddol cafodd y gerdd ddefosiynol The Dream of the Rood ei phriodoli iddo hefyd, ond bellach ni chydnabyddir unrhyw dystiolaeth dros hynny.[1]
Yr awdur
golyguNi wyddys unrhyw ffeithiau am fywyd Cynewulf. Priodolir y pedair cerdd i'r enw hwnnw, neu Cynwulf, mewn llythrennau rwnig, sydd yn ymddangos mewn diweddglo i bob un gerdd ar ffurf acrostig neu ddychymyg. Mae odlau yn y gerdd Elene yn dangos iddo ysgrifennu yn nhafodiaith naill ai Northymbria neu Fersia, yn hytrach nag iaith Sacsoneg y Gorllewin. Mae'n bosib yr oedd Cynewulf yn glerigwr dysgedig, oherwydd y mae'r holl farddoniaeth yn seiliedig ar ffynonellau Lladin.[2] Yn y 19g, ysgrifennwyd bywgraffiadau dychmygol o Cynewulf gan hanesyddion llenyddol, a fe gafodd ei gysylltu gydag Esgob Ynys Metgawdd, un o aelodau Pumed Gyngor Clofesho (803), neu abad o Drebedr yn y 9g a ddaeth yn Esgob Caerwynt.[3]
Barddoniaeth
golyguElene
golyguCerdd o 1,321 o linellau ydy Elene, sy'n ymddangos yn Llyfr Vercelli. Hanes ydyw o ddarganfyddiad y Wir Groes gan y Santes Helena, mam yr Ymerawdwr Cystennin Fawr.[3]
The Fates of the Apostles
golyguMerthyroleg ar fydr, mewn 122 o linellau, ydy The Fates of the Apostles sydd yn traddodi cenadaethau a marwolaethau'r Deuddeg Apostol. Mae'n dilyn Andreas yn Llyfr Vercelli, a weithiau fe'i ystyrir yn rhan olaf y gerdd honno. Er gwaethaf y themâu tebyg, cerdd ar wahân a chanddi strwythur ei hunan ydy The Fates of the Apostles. Agora'r gerdd yn adroddiant y llais cyntaf, a chlo'r bardd gan ymofyn ar y darllenwr a'r gwrandäwr i weddïo amdano ac i wrando'n astud i glywed enw'r bardd.[3]
Christ II
golyguYmddangosir Christ II, neu The Ascension, yn Llyfr Caerwysg, ac mae 427 o linellau'r gerdd yn goroesi. Hon yw'r ail ran o driawd ar fuchedd yr Iesu, a ysgrifennir gan wahanol awduron. Ffurf delynegol ydyw ar homili a ysgrifennwyd gan y Pab Grigor I ar bwnc y Dyrchafael. Mae'n bosib i Cynewulf ysgrifennu'r adran hon i bontio emynau'r Dyfodiad yn Christ I â'r gerdd Ddydd y Farn yn Christ III.[3]
Juliana
golyguBuchedd y Santes Iwliana mewn 731 o linellau yw Juliana, yn Llyfr Caerwysg, yn seiliedig ar waith rhyddiaith yn yr iaith Ladin. Cafodd Iwliana ei charcharu am iddi wrthod priodi'r Rhufeiniwr anghred Eleusius, a llwyddodd i amddiffyn ei henaid rhag temtiadau'r Diafol cyn iddi farw'n ferthyres.[3]
Arddull
golyguNodir barddoniaeth Cynewulf gan themâu a thechnegau sydd yn tynnu ar y traddodiad Lladin, yn enwedig yr arddull rhethregol clasurol sydd mor wahanol i gylchymadroddion y llên Eingl-Sacsoneg. Câi'r cerddi eu lliwio â delweddaeth yr arwrgerdd Germanaidd a bywyd y werin Eingl-Sacsonaidd, yn enwedig yn y disgrifiadau o frwydrau a mordeithiau.[2] Fel arfer, mae Cynewulf yn dilyn ei ffynonellau yn agos, gan ychwanegu dim ond myfyrdodau ac epilogau sydd yn galw ar y darllenwr i weddïo dros y bardd. Rhennir y cerddi hirach, Elene a Juliana, yn ganiadau (fitts), yn debyg o ran hyd i farddoniaeth Guthlac B a The Phoenix yn Llyfr Caerwysg.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) The Dream of the Rood. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2018.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Cynewulf. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2018.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Jane Roberts, "Cynewulf" yn The Wiley Blackwell Encyclopedia of Anglo-Saxon England (ail argraffiad) golygwyd gan Michael Lapidge et al. (Caerfuddai: John Wiley & Sons, 2014), tt. 136–7.