Llyfrgell Chester Beatty
Sefydlwyd Llyfrgell Chester Beatty yn Nulyn, Iwerddon ym 1950, yn gartref i gasgliadau un o gewri'r byd mwyngloddio sef: Syr Alfred Chester Beatty. Agorwyd y llyfrgell presennol (a saif ar dir Castell Dulyn) ar 7 Chwefror 2000 i goffhau 125 mlynedd ers genedigaeth Syr Alfred. Enwyd y llyfrgell yn Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn yn 2002.
![]() | |
Math | llyfrgell, oriel gelf ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alfred Chester Beatty ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dulyn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.342°N 6.267°W ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Alfred Chester Beatty ![]() |
Rhennir casgliadau'r Llyfrgell yn ddau gasgliad: "Traddodiadau Sanctaidd" a "Thraddodiadau Celfyddydol". Mae'r ddau gasgliad yn arddangos testunau sanctaidd, llawsygrifau, paentiadau bychain a darluniau ar bapur o grefyddau mawr tramorol a gorllewinol y byd, yn ogystal ag eitemau seciwlar.