Llyfrgell Genedlaethol Al-Assad
llyfrrgell genedlaethol Syria, a leolir yn Namascus
Llyfrgell genedlaethol Syria yw Llyfrgell Genedlaethol Al-Assad (Arabeg: مكتبة الأسد الوطنية). Fe'i lleolir yn Damascus, prifddinas Syria. Cafodd ei enwi ar ôl Hafez al-Assad, Arlywydd Syria o 1970 hyd 2000 a thad yr arlywydd presennol Bashar al-Assad.
Math | llyfrgell genedlaethol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Umayyad Square |
Sir | Damascus |
Gwlad | Syria |
Cyfesurynnau | 33.5147°N 36.2775°E |
Fe'i sefydlwyd yn 1984 i ddal pob llyfr a chylchgrawn am Syria "a'i hetifeddiaeth ddiwylliannol hynafol", ac yna eu trefnu er budd ymchwilwyr ac ysgolheigion.[1] Mae'r adeilad, sy'n edrych dros y Sgwar Umayyad yng nghanol y ddinas, gydag arwynebedd o 22000 m², yn ymestyn dros 9 llawr ac yn dal 40,000 teitl.[2] Dyma storfa gyfreithiol a hawlfraint Syria.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-19. Cyrchwyd 2009-04-17.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-16. Cyrchwyd 2009-04-17.
Dolenni allanol
golygu- (Arabeg) (Saesneg) Gwefan y llyfrgell Archifwyd 2008-05-16 yn y Peiriant Wayback