Llyfrgell Genedlaethol Bhwtan

llyfrgell yn Thimphu

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Bhwtan (Dzongkha: Druk Gyelyong Pedzö འབྲུག་རྒྱལ་ཡོངས་དཔེ་མཛོད།) yn 1967 yn Thimphu, prifddinas Bhwtan, er mwyn "diogelu a hyrwyddo etifeddiaeth ddiwylliannol a chrefyddol gyfoethog" Bhwtan.

Llyfrgell Genedlaethol Bhutan
Mathllyfrgell genedlaethol, archifdy cenedlaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1967 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirThimphu Edit this on Wikidata
GwladBaner Bhwtan Bhwtan
Cyfesurynnau27.4833°N 89.6322°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'r llyfrgell genedlaethol yn cynnwys nifer o lyfrau am hanes a diwylliant Bhwtan a thestunau Bwdhaidd yn yr iaith Dibeteg ac yn y dafodiaith leol ohoni (Dzongkha) a siaredir ym Mhwtan. Fe'i lleolir mewn adeilad traddodiadol pedwar-llawr a adeiladwyd yn gartref iddi.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Fhwtan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.