Tibeteg
Mae Tibeteg, iaith frodorol Tibet, yn iaith sy'n perthyn i'r gangen Dibeto-Bwrmaidd o'r teulu ieithyddol Sino-Tibetaidd. Ceir nifer o dafodieithoedd rhanbarthol yn Tibet ei hun: "Pob rhanbarth ei thafodiaith; / Pob lama ei ddysgeidiaeth!" (hen ddihareb Dibeteg). Yn ogystal mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn deall Tibeteg safonol, sydd wedi datblygu o dafodiaith Lhasa dan ddylanwad yr iaith lenyddol glasurol.
Y Dibeteg y tu allan i Dibet
golyguMae Ladaceg, a sieredir yn Ladakh a Zanskar, gogledd-orllewin India, yn dafodiaith Dibeteg debycach i Dibeteg Ganoloesol nag i Dibeteg Ddiweddar. Yn India hefyd sieredir tafodieithoedd Tibeteg mewn rhai ardaloedd yng ngogledd Lahul a Spiti, Himachal Pradesh. Mae ychydig o siaradwyr Tibeteg yn byw yng nghymoedd anghysbell gogledd Nepal hefyd, yn arbennig yn nyffryn Mustang, a fu ar un adeg yn frenhiniaeth lled-annibynnol. Yng ngogledd a chanolbarth Sikkim mae rhai pobl yn siarad y dafodiaith Dibeteg Bhotiaeg ac mae Tibeteg lenyddol yn gyfarwydd hefyd. Yn Bhwtan mae'r iaith genedlaethol Dzongkha, sy'n perthyn yn agos i'r Dibeteg, yn iaith swyddogol; mae'r iaith lafar yn eithaf tebyg i'r Dibeteg ei hun ac mae'r sgript Dibeteg arferol yn cael ei defnyddio i'w sgwennu. Gellid nodi yn ogystal fod sawl tref ac ardal yn India yn gartref i ffoaduriaid o Dibet; y canolfannau pwysicaf yw Dharamsala (Himachal Pradesh) a Darjeeling (Gorllewin Bengal).
Gwyddor a Gramadeg Tibeteg Ddiweddar
golyguCeir 30 cytsain a 4 llafariad yn yr iaith ysgrifenedig heddiw, ynghyd ag un llafariad ymhlyg nas ysgrifennir. Yn yr iaith lafar ceir 35 cytsain a naw llafariad ac mae ynganiad safonol Tibeteg ysgrifenedig yn galw am ddefnyddio pob un ohonynt. Nid yw Tibeteg Ddiwedar yn iaith ffonetig; mae'r ynganiad yn dibynnu ar gyfuniad llythrennau gair. Y rheswm am hynny yw bod Tibeteg wedi tyfu'n iaith donaidd yng nghanolbarth Tibet, ond cedwir sillafiad gwreiddiol geiriau a yngenid fesul sillaf ar un adeg (mae rhai tafodieithoedd yn dal i wneud hynny, e.e. Ladaceg).
Rhai Geiriau ac Ymadroddion
golygu- Tashi Delek Croeso
- sem-tjen anifail
- pe-tja llyfr
- da-wa mis
- gom-ba mynachlog
- nyom-pa gwallgof
- tja te
Llyfryddiaeth
golygu- C. A. Bell, English-Tibetan Colloquial Dictionary (1905; adargraffiad, Calcutta, 1986)
- Sarat Chandra Das, A Tibetan English Dictionary (1902; arg. newydd, Delhi, 1995). ISBN 81-208-0887-8
- Melvyn C. Goldstein, Essentials of Modern Literary Tibetan (arg. newydd, Delhi, 1993). ISBN 81-215-0581-X
- Lhamo Pemba (gol.), Tibetan Proverbs (Dharamsala, 1996). ISBN 81-86470-01-8