Llyfrgell Llandudno
Llyfrgell gyhoeddus yw Llyfrgell Llandudno, a leolir yn Stryd Mostyn yn Llandudno, Sir Conwy. Mae'n un o brif lyfrgelloedd y sir ac mae'n denu tua 170,000 o ymwelwyr y flwyddyn.[1]
Math | llyfrgell gyhoeddus, adeilad llyfrgell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandudno |
Sir | Llandudno |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 13.1 metr, 5 metr |
Cyfesurynnau | 53.32367°N 3.829134°W |
Cod post | LL30 2RP |
Rheolir gan | Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
Arddull pensaernïol | baroque revival |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Hanes
golyguMae adeilad y llyfrgell yn dyddio o 1910, ond mae ar safle llyfrgell gynharach, y Llandudno Newsroom and Library, llyfrgell danysgrifol a sefydlwyd yn 1873 gan yr Arglwyddes Mostyn. Gosodwyd y garreg sylfaen ar 14 Hydref 1873 gan William Bulkeley Hughes AS. Un o'r tanysgrifwyr ac ymwelwyr rheolaidd oedd y gwleidydd John Bright, a arferai alw yno yn ddyddiol i ddarllen The Times.[2]
Daeth yr angen am gael llyfrgell gyhoeddus yn amlwg; nid pawb oedd yn gallu fforddio tanysgrifio i lyfrgell breifat. Trefnodd asiant Ystad Mostyn i'r ffilanthropydd llyfrgelloedd James Carnegie a'r bonheddwr lleol John Walker i ariannu cael adeilad newydd a fyddai'n gartref i lyfrgell gyhoeddus, dan ofal Cyngor y dref. Gwnaed hynny ac agorwyd y llyfrgell newydd yn 1910.[2]
Yn 1992 cafwyd estyniad i'r llyfrgell ond cadwyd y ffasâd Edwardaidd gyda'i fynedfa bilerog a llawer o'r tu mewn gwreiddiol hefyd (ac eithrio yng nghefn yr adeilad, lle ceir yr estyniad).[2]
Cyfleusderau
golyguMae'r llyfrgell hon yn gartref i gasgliad o tua 38,000 o lyfrau (2013), CDau, a DVDs, a cheir yn ogystal 20 cyfrifiadur sy'n cynnig mynediad am ddim i'r we. Mae yno ystafelloedd cymunedol i'w llogi ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Llyfrgell Llandudno Archifwyd 2014-03-26 yn y Peiriant Wayback ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Ivor Wynne Jones, Llandudno, Queen of Welsh Resorts (2ail arg., Landmark, 2002). Tud. 81-82.
Dolenni allanol
golygu- Llyfrgell Llandudno Archifwyd 2014-03-26 yn y Peiriant Wayback ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.