Llyfrgell Thomas Parry
Agorwyd Llyfrgell Thomas Parry ym Mehefin 1970 i wasanaethu Coleg Llyfrgellwyr Cymru. Y pensaer oedd G. R. Bruce; yr adeiladydd oedd G. M. Jenkins a’i Feibion, Tregaron, a’r gost oedd £135.000. Fe'i lleolwyd ar Gampws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, yn Aberystwyth, Ceredigion.
Math | llyfrgell academaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Thomas Parry |
Agoriad swyddogol | Mehefin 1970 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 68.2 metr |
Cyfesurynnau | 52.4103°N 4.0542°W |
Cod post | SY23 3AS |
Rheolir gan | Prifysgol Aberystwyth |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguPan ddaeth Coleg Llyfrgellwyr Cymru yn rhan o Brifysgol Cymru Aberystwyth ym 1989, o dan yr enw ‘Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth’, daeth y Llyfrgell yn rhan o wasanaethau Llyfrgell y Brifysgol. Ym 1995 unwyd y Llyfrgell â’r Uned Gyfrifiadur a’r Adran Glyweled i ffurfio Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol.
Yn Awst 1995 ailenwyd y llyfrgell yn Llyfrgell Thomas Parry ar ôl yr ysgolhaig a’r llenor a chyn Lyfrgellydd Cenedlaethol, Syr Thomas Parry.
Ym 1966 unodd Coleg Amaethyddol Cymru, sefydliad annibynnol arall oedd ar Gampws Llanbadarn, â’r Brifysgol i ffurfio Sefydliad Gwyddorau Gwledig Cymru. Unodd llyfrgell Coleg Amaethyddol Cymru (a oedd hefyd yn llyfrgell Coleg Ceredigion) gyda Llyfrgell Thomas Parry a ehangwyd a’i hail gynllunio’n sylweddol gyda chynnydd helaeth mewn stoc, staff a darllenwyr.
Yn fwy diweddar, gwasanaethwyd anghenion dysgu ac ymchwil yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a Choleg Ceredigion gan Lyfrgell Thomas Parry.
Caewyd y llyfrgell ym mis Awst 2018.[1]
Defnyddiwyd yr adeilad fel canolfan frechu yn ystod y pandemig COVID-19.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Llyfrgell Thomas Parry - Haf 2018". Prifysgol Aberystwyth.
- ↑ "Gwahodd pobl rhwng 75 a 79 oed i dderbyn eu brechiad COVID mewn canolfan frechu dorfol". Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 22 Ionawr 2021.