Llyfryddiaeth T. E. Lawrence

Dyma lyfryddiaeth o weithiau ysgrifenedig am y llenor a'r milwr T. E. Lawrence (1888–1935) sy'n adnabyddus fel Lawrence o Arabia oherwydd ei ran yn y Gwrthryfel Arabaidd.

Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres ar
T. E. Lawrence

Bywyd cynnar • Teulu • Bywyd personol • Y Gwrthryfel Arabaidd • Wedi'r rhyfel • Y llenor • Seven Pillars of Wisdom • Clouds Hill • Lawrence of Arabia • Llyfryddiaeth

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Bywgraffiadau golygu

Awdurdodedig golygu

  • Graves, R. Lawrence and the Arabs (Llundain, Jonathan Cape, 1927).
  • Liddell Hart, B. H. T. E. Lawrence: In Arabia and After (Llundain, Jonathan Cape, 1935).
  • Wilson, Jeremy. Lawrence of Arabia: The Authorized Biography of T. E. Lawrence (Llundain, William Heinemann, 1989).
Penodwyd yr hanesydd Wilson yn fywgraffydd swyddogol T. E. Lawrence gan ei frawd ac ei ysgutor llenyddol, A. W. Lawrence. Gofynnwyd iddo dderbyn y dasg yn gyntaf ym 1971. Gwrthododd Wilson, gan ragweld y gwaith enfawr bydd rhaid i'w wneud i ymchwilio'r holl ddogfennau llywodraethol ar Lawrence a ddaeth yn gyhoeddus ym 1968. Yn y bôn ni ddaeth unrhyw fywgraffydd arall i fentro ac felly cytunodd Wilson yn hydref 1974.[1] Yn ystod ei waith, casglodd lyfryddiaeth o'i holl ffynonellau a gyhoeddwyd dan y teitl T. E. Lawrence: A Guide to Printed and Manuscript Materials.[2]

Arall golygu

  • Aldington, Richard. Lawrence of Arabia (Llundain, Collins, 1955).
Llyfr beirniadol iawn yw bywgraffiad Richard Aldington oedd yn un o'r cyntaf i ymosod ar "fyth Lawrence". Aldington oedd y cyntaf i nodi'n gyhoeddus taw plentyn anghyfreithlon oedd Lawrence, a dywedodd hefyd ei fod yn gyfunrywiol.
  • Asher, Michael. Lawrence: The Uncrowned King of Arabia (Llundain, Viking, 1998).
  • James, Lawrence. The Golden Warrior: The Life and Legend of Lawrence of Arabia (Weidenfeld, 1990).
Datgana adolygiad gan Edward Pearce yn y London Review of Books taw bywgraffiad synhwyrol a byr yw llyfr yr academydd Seisnig Lawrence James ar Lawrence, ac heb duedd na safbwynt arbennig iddo.[3] Ysgrifennodd hefyd lyfr ar Allenby o'r enw Imperial Warrior.
  • Knightley, P. a Simpson, C. The Secret Lives of Lawrence of Arabia (Llundain, Nelson, 1969).
  • Korda, Michael. Hero: The Life and Legend of Lawrence of Arabia (Llundain, JR Books, 2010).
  • Mack, John Edward. A Prince of Our Disorder: The Life of T. E. Lawrence (Boston, Little, Brown, 1976).
Enillodd Mack Wobr Pulitzer (Bywgraffiad neu Hunangofiant) am ei lyfr ar Lawrence, a ysgrifennwyd o safbwynt seiciatrydd.
  • MacLean, Alistair. Lawrence of Arabia (Random House, 1962).
Bywgraffiad cryno a syml yw llyfr y nofelydd antur Alistair MacLean ar Lawrence.
  • Robinson, E. Lawrence the Rebel (Llundain, Lincolns-Prager, 1946).
  • Stewart, Desmond. T. E. Lawrence (Llundain, Hamish Hamilton, 1977).
Cyhuddodd bywgraffydd awdurdodedig Lawrence, Jeremy Wilson, Stewart o gynnwys "theorïau di-werth ac anghredadwy" yn ei lyfr.[4]

Llyfrau am Lawrence yn y Gwrthryfel Arabaidd golygu

  • Barr, James. Setting the Desert on Fire: T. E. Lawrence and Britain's Secret War in Arabia, 1916–18 (Llundain, Bloomsbury, 2006).
  • Greaves, Adrian. Lawrence of Arabia: Mirage of a Desert War (Weidenfeld & Nicolson, 2007).
  • Konrad, Morsey. T.E. Lawrence und der arabische Aufstand 1916/18 (Osnabrück, Biblio Verlag, 1976).
Llyfr Almaeneg a ysgrifennwyd yn gyntaf fel traethawd doethurol.
  • Schneider, James J. Guerrilla Leader: T. E. Lawrence and the Arab Revolt (Efrog Newydd, Bantam, 2011).
Mae llyfr James J. Schneider, Athro Emeritws hanes milwrol yn Ysgol Astudiaethau Milwrol Pellach Byddin yr Unol Daleithiau, yn dadansoddi sut daeth Lawrence i fod yn arweinydd y Gwrthryfel Arabaidd trwy ddod i adnabod yr Arabiaid ac i fabwysiadu tactegau gerila. Yn ôl Schneider, roedd Lawrence yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) wedi'r rhyfel, o ganlyniad i bwysau ei arweinyddiaeth. Mae Schneider yn anywbyddu trais honedig Lawrence gan Dyrciaid yn Deraa, sydd yn aml yn ganolbwynt i esboniadau seicolegol a seiciatrig o bersonoliaeth Lawrence. Yn lle, enwa Schneider gorchymyn Lawrence i ladd milwyr Tyrciaid yn ddial am gyflafanau ym mhentrefi Arabaidd yn drobwynt i'w gyflwr seicolegol.[5]

Llythyron golygu

  • Garnett, D. (gol.) The Letters of T. E. Lawrence (Llundain, Jonathan Cape, 1938).
  • Lawrence, A. W. Letters to T. E. Lawrence (Llundain, Jonathan Cape, 1962).

Ffynonellau cynradd eraill golygu

Ffynonellau cynradd am Lawrence, hynny yw gweithiau gan bobl oedd yn ei adnabod.

Llyfrau golygu

  • Lawrence, A. W. (gol.) T. E. Lawrence by His Friends (Llundain, Jonathan Cape, 1937).
  • Storrs, R. Orientations (Llundain, Nicholson & Watson, 1937).

Hanesyddiaeth golygu

Gweithiau eilaidd sydd yn edrych ar Lawrence o safbwynt penodol.

  • Meyers, J. (gol.) T. E. Lawrence: Soldier, Writer, Legend (Llundain, Macmillan, 1989).
  • Mousa, Suleiman. T. E. Lawrence: An Arab View (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1966).

Llyfryddiaethau golygu

  • Clements, Frank. T. E. Lawrence: a reader's guide (Newton Abbott, David & Charles, 1972).
  • O'Brien, Philip M. T. E. Lawrence: A Bibliography (Winchester, St. Paul's, 1988).
  • Wilson, Jeremy. T. E. Lawrence: A Guide to Printed and Manuscript Materials (Fordingbridge, Castle Hill Press, 1990).
Cwblhawyd y cyfeirlyfr hwn gan Wilson wrth iddo weithio ar ei fywgraffiad awdurdodedig o Lawrence.

Cyfeiriadau golygu

  1. Wilson, Jeremy. Lawrence of Arabia: The Authorized Biography of T. E. Lawrence (Llundain, William Heinemann, 1989), t. 5.
  2. Wilson (1989), t. 10.
  3. (Saesneg) Pearce, Edward (11 Hydref 1990). The Man in White. London Review of Books. Adalwyd ar 26 Chwefror 2012.
  4. Wilson (1989), t. 13.
  5. Peake, Hayden (Mehefin 2012). "Intelligence Officer’s Bookshelf". Studies in Intelligence (Y Ganolfan dros Astudiaeth Cudd-wybodaeth, yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA)) 56 (2): 54–5. https://www.cia.gov/library/center-for-the-study-of-intelligence/csi-publications/csi-studies/studies/vol.-56-no.-2/pdfs/Peake-Bookshelf%20Number-June-2012-EXTRACTS.pdf. Adalwyd 9 Medi 2012.

Dolen allanol golygu