T. E. Lawrence yn y Gwrthryfel Arabaidd
Chwaraeodd yr Is-gyrnol T. E. Lawrence ran arwyddocaol yn y Gwrthryfel Arabaidd, gwrthryfel yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres ar T. E. Lawrence | |
---|---|
Bywyd cynnar • Teulu • Bywyd personol • Y Gwrthryfel Arabaidd • Wedi'r rhyfel • Y llenor • Seven Pillars of Wisdom • Clouds Hill • Lawrence of Arabia • Llyfryddiaeth |
Cyn y Gwrthryfel
golyguUnwaith i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau yn Awst 1914, ymunodd Lawrence ag adran ddaearyddol y Swyddfa Rhyfel yn Llundain, ac anfonwyd i'r Dwyrain Canol fel rhan o adran gudd-wybodaeth y Fyddin Brydeinig yng Nghairo, yr Aifft.
1916–17
golyguLansiwyd y Gwrthryfel Arabaidd gan Hussein bin Ali, Sharif Mecca, a'i meibion Ali, Abdullah, Faisal a Zeid, ym Mehefin 1916. Aeth Lawrence i Arabia ym mis Hydref i sylwi ar y Gwrthryfel, a daeth yn gynghorwr i Feisal. Bwriadodd Lawrence a Feisal i symud lluoedd Feisal i ogledd y Hejaz.
Brwydr Aqaba
golyguCipiodd lluoedd Feisal borth Aqaba yng Ngorffennaf 1917, gyda chymorth arweinyddiaeth Lawrence, a llwyddodd Lawrence i berswadio'r Cadfridog Syr Edmund Allenby o bwysigrwydd y Gwrthryfel Arabaidd i ymgyrch Prydain yn y Dwyrain Canol yn erbyn yr Otomaniaid/Tyrciaid.
1917–18
golyguNod bersonol Lawrence oedd i ennill annibyniaeth i'r Arabiaid wedi diwedd y rhyfel.
Targedwyd Rheilffordd Hejaz gan yr Arabiaid, gan dorri cyflenwadau'r Tyrciaid.
Deraa
golyguO ganlyniad i lwyddiant yr Arabiaid wrth dynnu sylw ac adnoddau'r Tyrciaid trwy ddifrodi Rheilffordd Hejaz, roedd Lawrence yn benderfynol o dargedu rheilffyrdd y tu ôl i gefn y gelyn, tua'r gogledd. Gadawodd Lawrence Aqaba ar 24 Hydref 1917, gyda chriw o Arabiaid, â'r bwriad o deinameitio'r bont yn Yarmuk gan dorri'r rheilffordd rhwng Deraa ac Haifa. Methodd y cyrch hwn pan ollyngodd un Arab ei wn, gan atseinio o amgylch y ceunant a thynnu sylw'r gwarchodwyr Tyrcaidd. Wedi iddynt ddianc, ffrwydrodd Lawrence drên ar ran ogleddol Rheilffordd Hejaz. Cafodd Lawrence ei anafu gan filwyr Tyrcaidd, ond unwaith eto llwyddodd i ddianc gan fynd i Azrak â'i griw o gerilas.
Yna, ym mis Tachwedd 1917, bu un o'r digwyddiadau mwyaf ddrwg-enwog ym mywyd Lawrence. Yn ôl Lawrence yn Seven Pillars of Wisdom, aeth ar ymweliad cudd o Azrak i Deraa mewn gwisg Arabaidd. Cafodd ei gamadnabod gan y Tyrciaid yn Deraa am enciliwr o'r Fyddin Otomanaidd, ond honnodd Lawrence yr oedd yn Gircasiad mewn ymgais i egluro lliw ei groen a'i lygaid. Cafodd ei gymryd i'r Bey lleol, oedd yn dymuno cael rhyw â Lawrence. Gwrthododd, a chafodd ei guro gan y gwarchodwyr a'i dreisio.
Yn ôl aelodau staff Syr Ronald Storrs, roedd Lawrence wedi "newid" ar ôl iddo ddychwelyd o Deraa.[1] Yn ôl bywgraffiad gan y seiciatrydd John E. Mack, cafodd brofiad Lawrence yn Deraa effaith sylweddol ar ei gyflwr seicolegol.[2] Ond yn ôl bywgraffwyr eraill, nid oedd Lawrence yn dweud yr holl wir, ac mae'n bosib ni aeth Lawrence o Azrak i Deraa o gwbl. Yn ôl Adrian Greaves, dywedodd Lawrence i'w gyfaill George Bernard Shaw nad oedd y stori am Deraa yn wir.[3] Mae ysgolheigion eraill wedi nodi anghysondebau rhwng dyddiadur Lawrence â'i hanes yn Seven Pillars. Hyd heddiw, dadleuol yw gwirionedd y digwyddiad.
Cwymp Damascus
golyguWedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid ym Mrwydr Megiddo, symudodd Ymgyrch Sinai a Phalesteina yn agosach at Damascus. Ar 30 Medi daeth reolaeth y Tyrciaid dros y ddinas i ben, a threchodd Prydain y fyddin Dyrcaidd olaf ar y ffordd i Damascus. Codwyd y faner Arabaidd dros neuadd y dref a phenododd y llywodraethwr Tyrcaidd, Djemal Pasha, uchelwr Arabaidd lleol o'r enw Mohammed Said i'w olynu.
Y 3edd Frigâd Geffylod Ysgafn Awstraliaidd oedd lluoedd cyntaf y Cynghreiriaid i mewn i'r ddinas ar doriad gwawr 1 Hydref 1918. Awr yn hwyrach dilynodd rhagor o farchfilwyr Awstraliaidd ac ildiodd y garsiwn Dyrcaidd. Lawrence a'r Arabiaid oedd y drydedd fintai yn Damascus y bore hwnnw. Gorchmynnodd hwy i gyngor Said wneud lle am lywodraethwr ffyddlon i'r Arabiaid, ond collodd y weinyddiaeth newydd hon reolaeth ar y ddinas o fewn ychydig o ddiwrnodau o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth leol.
Wedi diwedd y Gwrthryfel
golyguCynhadledd Heddwch Paris a rhannu Ymerodraeth yr Otomaniaid
golyguCymerodd Lawrence ran yn y trafodaethau yng Nghynhadledd Heddwch Paris wedi diwedd y rhyfel i geisio sicrhau gwladwriaeth i'r Arabiaid, ond methodd.
Cofiannau
golygu- Gweler hefyd: T. E. Lawrence y llenor.
Ysgrifennodd Lawrence llyfr am ei brofiad yn y Gwrthryfel Arabaidd, Seven Pillars of Wisdom, a thalfyriad ohono, Revolt in the Desert.
Strategaeth
golyguYstyrid Lawrence yn un o arloeswyr strategaeth herwfilwrol (neu gerila) yr 20g.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Storrs, t. 23.
- ↑ Mack, t. 229–34.
- ↑ Greaves, t. 149.
- ↑ (Saesneg) Faulkner, Neil (17 Medi 2010). Guerrilla of Arabia: How one of Britain's most brilliant military tacticians created the Taliban's battle strategy. The Independent. Adalwyd ar 25 Chwefror 2012.
Ffynonellau
golygu- Greaves, Adrian. Lawrence of Arabia: Mirage of a Desert War (Weidenfeld & Nicolson, 2007).
- Mack, John Edward. A Prince of Our Disorder: The Life of T. E. Lawrence (Boston, Little, Brown, 1976).
- Storrs, Ronald. Orientations (Llundain, Nicholson & Watson, 1937).