Llygad-llo mawr
Llygad-llo mawr | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Leucanthemum |
Rhywogaeth: | L. vulgare |
Enw deuenwol | |
Leucanthemum vulgare Lam. |
Planhigyn lluosflwydd byrhoedlog ydy llygad llo mawr neu weithiau llygad-llo mawr (Leucanthemum vulgare, Saesneg: Ox-eye daisy). Fe'i ceir yn aml ar hen gloddiau, mewn mynwentydd, ar dwyni tywod neu ar ochr y draffordd. Mae'n perthyn i deulu llygad y dydd (Asteraceae). Gall dyfu i fod rhywle rhwng 20 cm a 100 cm o ran uchter gyda'r blodau yn 25 – 50 mm ar draws ac yn blodeuo rhwng Mai a Hydref.
Mae'r blodigau canol yn felyn a'r blodigau rheiddiol yn wyn; mae gan y bractau ymylon brown neu ddu. Siâp hirgrwn (neu ofal) sydd i'r dail, a'r rheiny yn wyrdd tywyll.