Llygoden bengron Sgomer

isrywogaeth o Lygoden bengron goch
Llygoden bengron Sgomer
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Cricetidae
Is-deulu: Arvicolinae
Genws: Myodes
Rhywogaeth: M. glareolus
Isrywogaeth: M. g. skomerensis
Enw trienwol
Myodes glareolus skomerensis
Barrett-Hamilton, 1903

Mamal bach o drefn y cnofilod (Rodentia) yw Llygoden bengron Sgomer (Myodes glareolus skomerensis), sy'n isrywogaeth o Lygoden bengron goch.[1] Dim ond ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro y mae i'w chael. Mae tua 20,000 ohonyn nhw ar yr ynys. Nid oes ganddyn nhw ysglyfaethwyr fel llwynogod a gwencïod ar yr ynys, felly maen nhw'n fwy ac yn gryfach na'u cymheiriaid ar y tir mawr. Serch hynny maent yn ysglyfaeth i adar fel tylluanod, cudyllod coch, bwncathod a hebogiaid.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Skomer Vole". BBC Wales. 24 Mai 2011. Cyrchwyd 10 Mai 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.