Llyn Barfog
llyn yn ne Gwynedd
Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Barfog. Mae yna rodfa boblogaidd i'r llyn o Gwm Maethlon (1.5 km).
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.569841°N 3.989202°W |
Llifa Afon Dyffryn Gwyn o'r llyn. Mae'n cyrraedd Bae Ceredigion tua milltir i'r de o dref Tywyn.
Chwedl
golyguYn ôl traddodiad, yma oedd cartref yr Afanc, anghenfil a lusgwyd o'r llyn gan y Brenin Arthur (neu gan Hu Gadarn, yn ôl y traddodiad a ffugwyd gan Iolo Morganwg yn y 18g).
Amgylchedd
golyguMae'r gors o gwmpas y llyn, a enwir Cors Barfog gan Gyfoeth Natur Cymru, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru') Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 25 Rhagfyr 2013.