Mae Llyn Coron yn llyn ar Ynys Môn tua milltir a hanner o Aberffraw. Diddorol yw'r enw ac ystyried mor agos yw'r llyn i lys brenhinol Aberffraw, cartref tywysogion Gwynedd.

Llyn Coron
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2023°N 4.4288°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Ffraw yn llifo trwy'r llyn ac yn rhedeg allan ohoni yn y de-orllewin.

Llyn gweddol fâs yw Llyn Coron, ac mae'n boblogaidd gan bysgotwyr. Mae hefyd gryn nifer o adar yn gaeafu arno.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato