Llyn Cwm y Foel
llyn yng Ngwynedd, Cymru
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Cwm y Foel (amrywiad: Llyn Cwm-y-foel ar y map OS). Mae'n un o nifer o lynnoedd ar y tir uchel i'r gogledd o gopa'r Moelwyn Mawr yn y Moelwynion. Saif i'r dwyrain o gopa Cnicht ac i'r gorllewin o Lyn Cwm Corsiog, 1,100 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae ganddo arwynebedd o 8 acer.
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0014°N 4.0056°W |
Cod OS | SH655468 |
Rheolir gan | RWE Generation UK PLC |
Defnyddid dŵr o'r llyn yma i gynhyrchu trydan yn Chwarel Croesor, fel rhan o gynllun arloesol Moses Kellow yn 1904. Ceir pysgota am frithyll yn y llyn.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)