Y Llethr

mynydd (756m) yng Ngwynedd

Y Llethr yw copa uchaf y Rhinogydd yng ngogledd Cymru; cyfeiriad grid SH661257. Saif i'r de o Rhinog Fach, gyda Llyn Hywel rhyngddynt, ac i'r gogledd o Diffwys dros Grib-y-rhiw. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 195metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Y Llethr
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr756 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.81285°N 3.98763°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6613725777 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd561 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMoel Siabod Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddRhinogydd Edit this on Wikidata
Map

Gellir dringo'r mynydd o'r gorllewin, gan gychwyn yng Nghwm Nantcol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy ddringo i Fwlch Drws Ardudwy ac i gopa Rhinog Fach yn gyntaf.

Dosbarthu copaon golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 756 metr (2480 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Mawrth 2010.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu