Llyn Dwfn
llyn yng Ngheredigion
Gorwedd Llyn Dwfn yn rhan ogleddol mynyddoedd Elenydd yng ngogledd Ceredigion, cwta milltir o'r ffin rhwng y sir honno a Phowys, tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o fynydd Pumlumon a thua 5 milltir i'r de o dref Machynlleth.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.516819°N 3.860511°W |
Mae'r llyn yn gorwedd tua 400 metr i fyny. Llyn artiffisial ydyw, a greuwyd ar gwrs afon Llechwedd-mawr fel rhan o waith hydroelectrig cronfa Nant-y-moch. Llifa'r afon honno am chwarter milltir o'i tharddle yn Llyn Conach i gyrraedd Llyn Dwfn. Oddi yno mae'n llifo i'r de trwy gronfa arall, Llyn Plas-y-mynydd, i lifo i Nant-y-moch ac ymuno yn afon Rheidol.
Gellir cyrraedd y llyn trwy ddilyn trac coedwigaeth o Nant-y-moch.