Llyn Plas-y-mynydd

Llyn yng ngogledd Ceredigion yw Llyn Plas-y-mynydd. Fe'i lleolir yn y bryniau tua 5 milltir i'r dwyrain o Dre Taliesin.

Llyn Plas-y-mynydd
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.512416°N 3.846546°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyfoeth Naturiol Cymru Edit this on Wikidata
Map

Saif y llyn bychan hwn ger tri llyn arall a leolir ychydig i'r gogledd, sef Llyn Dwfn, Llyn Conach a Llyn Pen-rhaeadr ar gwr un o goedwigoedd y Comisiwn Coedwigaeth 3.5 milltir i'r gogledd-orllewin o gopa Pumlumon rhwng bryniau Pencreigiau'r Llan ac Esgair Fraith. Llifa ffrwd o Lyn Conach a Llyn Dwfn iddo o'r gogledd. O ben deheuol y llyn mae Afon Llechwedd-mawr yn llifo am 3 milltir i gronfa dŵr Nant-y-moch.[1]

Ceir bwthyn o'r enw 'Anglers' Retreat' ar lan y llyn.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 135 Aberystwyth.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.