Llyn Frongoch
llyn yng Ngheredigion
Llyn bychan yng Ngheredigion yw Llyn Frongoch. Mae'n gorwedd yn y bryniau tua 2 filltir i'r de-orllewin o Bontarfynach.
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.361272°N 3.87917°W |
Rheolir gan | Aberystwyth Angling Association |
Crëwyd y llyn drwy godi argae o bridd dros nant fechan er mwyn cael cyflenwad dŵr i'r gwaith plwm gerllaw, gwaith a sefydlwyd gan yr Arglwydd Lisburn yn 1902.
Mae'n gorwedd yn nhalgylch afon Ystwyth ond nid oes ffrwd yn llifo allan ohono.