Pontarfynach

pentref yng Ngheredigion

Pentref a chymuned yng Ngheredigion yw Pontarfynach (Saesneg: Devil's Bridge).[1] Enwyd y pentref ar ôl y tair pont a godwyd yno, un ar ben y llall, dros Afon Mynach, nepell o'i haber ag Afon Rheidol.

Pontarfynach
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth455 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,936.2 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3768°N 3.8498°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000397 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mynachod Abaty Ystrad Fflur a adeiladodd y bont gyntaf yn ystod yr Oesoedd Canol. Pontarfynach yw pen y daith ar Reilffordd Dyffryn Rheidol.

Yn 2011 roedd 455 o bobl yn byw ym mhentref Pontarfynach, a 43% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2011).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Y Pentref golygu

Mae Pontarfynach yn bentref eithaf unigryw gan fod yma reilffordd, marchnad ddefaid (ar brynhawn Mercher), gwesty a thafarn, caffi, ysgol gynradd (Ysgol Mynach), gwersyll carafannau a chanolfan gymdeithasol (sef hen gapel Mynach) sydd yn cael ei addasu ar gyfer defnydd aml bwrpas yn ystod 2020/21.

Adeiladwyd yr orsaf a'r rheilffordd ym 1904 er mwyn cludo'r mwyn o'r gweithfeydd lleol i'r porthladd yn Aberystwyth. Daeth llawer o weithwyr Gwyddelig (nafis) draw i dorri llwybr i'r rheilffordd drwy'r creigiau. Cyn hynny roeddent wedi bod wrthi yn gweithio yn Nyffryn Elan yn adeiladu'r argaeau ar gyfer darparu dŵr i ddinas Birmingham. Mae'r rheillffordd yn 12 milltir o hyd ac erbyn heddiw mewn dwylo preifat. Bu buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn mae miloedd o deithwyr yn cael eu cludo i'r pentref bob blwyddyn er mwyn gweld y golygfeydd lleol.

Addysg golygu

Roedd yr ysgol gyntaf wedi ei sefydlu ym 1866 mewn ystafell uwchben y Tŷ Capel, oedd drws nesaf i Gapel Mynach, sef enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Rhoddwyd yr enw Ysgol 'Y Llofft' arni. Yr athrawes gyntaf oedd Saesnes o'r enw Miss Charlotte Newbury.

Yn dilyn Deddf Addysg 1870 roedd disgwyl i bob plwyf sefydlu Bwrdd Ysgol i adeiladu a rheoli ysgolion. Y ddeddf seneddol hon oedd y gyntaf i ymdrin yn benodol a darparu addysg ym Mhrydain, ac roedd yn ymrwymo i sicrhau addysg ar raddfa genedlaethol. Ym 1871 sefydlwyd Bwrdd Ysgol ym Mhontarfynach a sicrhawyd darn o dir o'r enw Tir Cae Newydd, sef darn o dyddyn Rhostyddyn Fach drwy garedigrwydd Mr J B Balcomb. Roedd ef yn ŵr busnes llwyddiannus, ac yn berchen ar westy yr Hafod yn y pentref. Ef hefyd a adeiladodd westy yn Aberystwyth o'r enw 'The Queen's Hotel'. Yn ddiweddarach fe ddaeth yr adeilad hwnnw yn Bencadlys Awdurdod Addysg Sir Aberteifi (Ceredigion wedi hynny) ynghyd â Gorsaf yr Heddlu a'r Llys Barn, nes i'r sefydliadau hynny symud i adeiladau pwrpasol eraill yn y dref.

Adeiladwyd yr ysgol yn ystod cyfnod pan oedd yna gymuned fywiog a llawer o weithgarwch yn y gweithfeydd mwyn lleol. Paratowyd cynlluniau ac adeiladwyd yr ysgol gan ŵr o'r enw Thomas Griffiths ar yr amod ei bod yn barod erbyn Mehefin 30,1876. Bu'n rhaid i'r Bwrdd gael benthyciad o £650 oddi wrth y 'Public Works Loan Commission' er mwyn talu am yr adeilad. Fe gostiodd adeilad yr ysgol £533, ond bu angen £307 hefyd er mwyn adeiladu Tŷ'r Ysgol. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am y tair ysgol oedd yn y plwyf sef: Mynach, Trisant a Cwmystwyth. Cyfanswm cyflogau athrawon ac athro ddisgyblion y tair ysgol ym 1876 oedd £267.

Ym 1947 cafodd Ysgol Trisant ei chau gan mai dim ond 4 disgybl oedd yno, a symudodd yr athrawes a'r plant i Ysgol Mynach. Ym 1960 fe gaeodd Ysgol Cwmystwyth, sef pentref cyfagos, ac fe symudodd y 5 disgybl i Ysgol Mynach. Ers hynny, bu Mynach yn ysgol ardal ar gyfer cymuned Trisant, Cwmystwyth a Phontarfynach.

Ym 1976 fe wnaeth yr ysgol ddathlu ei chanmlwyddiant ac fe ffurfiwyd pwyllgor o dan gadeiryddiaeth y diweddar Barchedig David Lewis Evans, Trisant i drefnu cyfres o ddathliadau. Cafwyd un cyfarfod arbennig o Hanes, Atgofion a Chyfarchion lle bu'r Parch D Lewis Evans yn cyflwyno hanes yr ysgol o'r cychwyn cyntaf.[4]

Ymweliad William Wordsworth golygu

Ym 1824 fe ddaeth y bardd William Wordsworth (1770–1850) i ymweld â'r pentref gan ryfeddu at y rhaeadr gan ei ysbrydoli i gyfansoddi'r gerdd isod:

   To the Torrent at the Devil’s Bridge
How art thou named? In search of what strange land,
From what huge height, descending? Can such force
Of waters issue from a British source,
Or hath not Pindus fed thee, where the band
Of patriots scoop their freedom out, with hand
Desperate as thine? Or come the incessant shocks
From that young stream that smites the throbbing rocks
Of Viamala? There I seem to stand,
As in life's morn; permitted to behold,
From the dread chasm, woods climbing above woods,
In pomp that fades not; everlasting snows;
And skies that ne'er relinquish their repose:
Such power possess the family of floods
Over the minds of poets, young or old!

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontarfynach (pob oed) (455)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontarfynach) (192)
  
43.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontarfynach) (189)
  
41.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Pontarfynach) (74)
  
35.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%


Oriel Luniau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 27 Ionawr 2021
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Fynonellau:
    • Tap sain o'r ddarlith "Hanes, Atgofion a Chyfarchion - Canmlwyddiant Ysgol Mynach" gan y Parch David Lewis Evans, 2 Gorffennaf 1976 (Archifdy Ceredigion)
    • Erthygl "Canmlwyddiant Ysgol Mynach", The Cambrian News, 23 Gorffennaf 1976
    • Erthygl "Dathlu Deublyg", Y Cymro, Mehefin 1976
    • Cofnodion "The Devil's Bridge School Board, 1866–1876" (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
    • Llyfrau log Ysgol Mynach, 1876-1976 (Archifdy Ceredigion)
    • Cofrestru Ysgol Mynach, 1876-1976 (Archifdy Ceredigion)
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru[dolen marw]; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; "Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant."; adalwyd 31 Mai 2013]