Llyn Fyrddon Fawr

Llyn yng Ngheredigion

Llyn yng nghanolbarth Ceredigion yw Llyn Fyrddon Fawr. Cyfeirnod OS: SN721752. Mae yn nhalgylch afon Hafren.

Llyn Fyrddon Fawr
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.321847°N 3.761784°W Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd y llyn tua 525 metr uwch lefel y môr ym mryniau Elenydd tua 4 milltir i'r dwyrain o Bontrhydfendigaid ar ddarn o rosdir gwlyb ar y ffin rhwng Ceredigion a Phowys. Mae'n un o darddleoedd afon Claerwen; llifa ffrwd ohono i'r afon honno sy'n llifa yn ei blaen wedyn i gronfa Llyn Claerwen.

Gerllaw ceir Llyn Fyrddon Fach: llai na chwarter milltir sydd rhwng y ddau lyn ac mae'r unig ffrwd sy'n llifo o Fyrddon Fach yn llifo i Fyrddon Fawr. Hanner milltir i'r de ceir llyn bychan arall, sef Llyn Du.

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.