Llyn Gelligain

llyn yn Eryri, Cymru
(Ailgyfeiriad o Llyn Gelli Gain)

Llyn bychan yn ne Gwynedd yw Llyn Gelligain. Fe'i lleolir tua 3 milltir i'r de-ddwyrain o Drawsfynydd yn ardal Meirionnydd. Saif 1,100 troedfedd i fyny.

Llyn Gelligain
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,100 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawAfon Gain Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.87792°N 3.882712°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Saif y llyn ger copa Moel Ddu i'r de o Gwm Prysor; llifa ffrwd o'r llyn i gyfeiriad y de i lifo i Afon Gain, un o lednentydd Afon Mawddach, yn is i lawr.[1]

Llyn Gelli Gain yn yr haf
Llyn Gelli Gain yn y gaeaf

Dyma hen gronfa dŵr Trawsfynydd ar un adeg.[2]

Cyfeiria'r hynafiaethydd a naturiaethwr Edward Lhuyd at y llyn yn 1698, gan ei alw'n "Lhyn Celligen". Mae'n dweud bod y llyn "yn llawn o benhwyaid a llyswennod o faint eithriadol o fawr"; ceir penhwyaid a llyswennod yno o hyd.[2]

Hanes llafar golygu

Mae Llyn Gelli Gain (Llugan ar lafar) ym mhlwy Trawsfynydd yn 1,300' o uchder uwchben y môr; felly syndod oedd o i mi ddarllen mewn llyfr teithiau cerdded fod y lle'n enwog am lyswennod ers talwm (glywis i erioed mo hynny o'r blaen - penhwyad yn bendant, fel Llyn Peic oeddan i'n nabod y lle fel plant). Un nant fach sydd yn rhedeg ohoni i'r Afon Gain tua 450' yn îs i lawr yng Nghwm Dolgain - felly oes 'na bosibilrwydd fod llyswennod wedi bod yno rhyw dro.[3]

...At one time large eels were to be found in the lake for which it was famous. However today, it contains pike which weigh up to 8 pounds.

Stori arall cofiaf pan oedd y llyn wedi rhewi yw un am hela llwynog a'r cŵn hela wedi dal i fyny efo'r hen lwynog wrth lan y llyn. Mentrodd y blewyn coch dros y rhew ar cŵn yn ei ddilyn, ond roeddent yn rhy drwm i'r rhew a drwodd a nhw i'r dŵr gan adael i'r hen lwynog ddianc![4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 131.
  3. Des Marshall (2010) Walking to the Lakes of Mid & North Walestud15 (cyh. Kittiwake)
  4. Keith O'Brien: Grwp Facebook Cymuned Llên Natur