Llyn Gweryd
llyn bychan wrth droed Moel y Plas, Dyffryn Clwyd
Llyn yn Sir Ddinbych yw Llyn Gweryd. Saif ger Llanarmon-yn-Iâl, rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, 300 metr uwchben lefel y môr.
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.085809°N 3.237474°W |
Mae yma fferm bysgota a llyn neu ddau arall ychydig is na'r prif lyn. Gellir cyrraedd y llyn mewn car drwy fynd i fyny'r 'silff' fel y'i gelwir, sy'n dirwyn o gam i gam ar ochor Moel y Gelli, dros Foncyn y Waen-grogen o gyfeiriad Pentre Coch a Rhuthun.
Tua hanner kilometr o'r llyn, ar Boncyn y Waen-grogen, ceir mast radio.
Delweddau
golygu-
Ffordd gul, droellog ar y ffordd i fyny i Lyn Gweryd o Ruthun.
-
Y llyn ei hun, gyda Moel y Plâs ar y dde iddo.