Llyn Gwngu
Llyn yng nghanolbarth Ceredigion yw Llyn Gwngu. Fe'i lleolir bron ar y ffin rhwng Powys a Cheredigion yn uchel yn y bryniau tua 3 milltir i'r dwyrain o bentref Cwmystwyth.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.342288°N 3.706373°W |
Llifa Afon Gwngu o'r llyn i gyfeiriad y dwyrain i lifo am tua 2.5 milltir cyn ymuno ag Afon Elan ym Mhowys.[1] Mae'n un o'r llecynnau mwyaf anghysbell yng Ngheredigion, yn uchel ym mryniau'r Elenydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Map OS Landranger 135 1:50,000