Llyn Gwynant
llyn, Gwynedd, Cymru
Mae Llyn Gwynant yn llyn yn Nant Gwynant yn Eryri, yng ngogledd Cymru.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.048°N 4.022°W |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Mae'r llyn yn cael ei ffurfio gan Afon Glaslyn sy'n llifo i lawr llethrau'r Wyddfa o Lyn Llydaw o'r gogledd cyn cyrraedd Llyn Gwynant. Mae'n llyn gweddol o ran ei faint, gydag arwynebedd o tua 50 ha. Mae ei lannau'n goediog ac eithrio ambell cae a phorfa eang ar ei ben gogleddol. Yn yr haf mae'n lle poblogaidd iawn gan ymwelwyr er mwyn hwylio a chanŵio.
Ar lan orllewinol y llyn cyfyd craig serth a choediog Penmaen-brith ac yn uwch i fyny mae Gallt y Wenallt, y cyntaf o gopaon Pedol yr Wyddfa.
Rhyw 2 km yn is i lawr y dyffryn mae llyn arall, Llyn Dinas, gyda phentref Bethania yn gorwedd rhwng y ddau lyn. Mae ffordd yr A498 yn pasio ar lan y llyn.
-
Llyn Gwynant o'r lan
-
Nant Gwynant, yn edrych tua'r de; Llyn Gwynant yn y canol
-
Llyn Gwynant o gyfeiriad Capel Curig, tua 1840
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995)