Agor y brif ddewislen
Llyn Hesgyn

Llyn bychan, gydag arwynebedd o 5.2 acer, yng Ngwynedd yw Llyn Hesgyn. Saif ychydig i'r dwyrain o gopa Carnedd y Filiast ar yr ucheldir rhwng Y Bala ac Ysbyty Ifan, 425 medr (1394 troedfedd) uwch lefel y môr.

Y llyn yw tarddle Afon Hesgyn, sy'n llifo tua'r de ar hyd Cwm Hesgyn i ymuno ag Afon Tryweryn ychydig i'r dwyrain o argae Llyn Celyn.