Carnedd y Filiast (y Migneint)

mynydd (669m) yng Ngwynedd

Mae Carnedd y Filiast yn gopa mynydd a geir yn Arenig i'r gogledd o Gapel Celyn; cyfeiriad grid SH871446, yn ne-ddwyrain Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 354 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Carnedd y Filiast (y Migneint)
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr669 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.98678°N 3.68302°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH8711944599 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd316 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaArenig Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Saif ar ochr ddwyreiniol y Migneint, i'r gogledd o Lyn Celyn a'r briffordd A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala, gyda chopa Arenig Fach i'r de-orllewin. Gellir ei ddringo o'r A4212, heibio copa is Foel Boeth. Saif Llyn Hesgyn ar ei ochr ddwyreiniol.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 669 metr (2195 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.

Yr enw golygu

Mae'r enw yn tarddu o lên gwerin. Mae enwau henebion cynhanesyddol sy'n cynnwys yr elfennau miliast neu ast yn cynnwys Llety'r Filiast (Y Gogarth, Llandudno), Llety'r Filiast (ger Rowen), Llech y Filiast (Morgannwg), Carnedd y Filiast (ger Ysbyty Ifan) a Llech yr Ast (Llangoedmor, Ceredigion). Yn chwedl Culhwch ac Olwen mae Gast Rhymni, sef merch yn rhith bleiddast, yn cael ei hela gan y Brenin Arthur.[2] Mae'r filiast yn un o ymrithiadau Ceridwen yn y chwedl Hanes Taliesin.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. “Database of British and Irish hills”
  2. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (D. S. Brewer, ail arg. 1979), tud. 93.

Dolenni allanol golygu