Llyn Hir (Maldwyn)
Llyn bychan yng ngogledd Powys yw Llyn Hir. Saif ym mryniau Maldwyn tua 3 milltir i'r de-ddwyrain o bentref Llangadfan a thua 5 milltir i'r gorllewin o Llanfair Caereinion. Uchder: tua 340 meter uwch lefel y môr.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.641967°N 3.443303°W |
Saif y llyn hwn mewn corsdir agored ger Mynydd Waun Fawr. Y llyn a'r corsdir o'i gwmpas yw prif darddle Afon Einion, ffrwd fynyddig sy'n llifo i Afon Banwy tua 1.5 milltir i'r gorllewin o Lanfair Caereinion.[1]
Tua hanner milltir i'r gogledd ceir llyn bychan arall, sef Llyn y Grinwydden, sy'n sylweddol llai na Llyn Hir.[1]